Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 25 Mawrth 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 09.15 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Lesley Griffiths Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
The minutes were noted by the Committee for publication.
3 Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mercher 2 Ebrill 2014
Dydd Mercher 7 Mai 2014
4 Busnes y Cyfarfod Llawn
4(i) Cynnig i ddiwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010)
Nododd y Rheolwyr Busnes fwriad Comisiwn y Cynulliad i gyflwyno cynnig a fyddai'n penderfynu diwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl ar y cynnig ar gyfer 2 Ebrill 2014 (a neilltuo 5 munud i'r eitem).
5 Amserlen y Cynulliad
5(i) Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Cynulliad 2014 - 2015
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Unrhyw Fusnes Arall
Ethol Cadeiryddion y Pwyllgor
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur ar y prosesau amgen posibl ar gyfer ethol Cadeiryddion pwyllgorau, a nodwyd fod yr Ysgrifenyddiaeth wrthi'n paratoi papur ar adolygu Rheolau Sefydlog yn fwy cyffredinol.
Adroddiad wedi'i ddatgelu
Holodd Elin Jones ynghylch pa gamau a oedd yn cael eu cymryd gan y Comisiwn i nodi ffynhonnell adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gafodd ei ddatgelu yr wythnos diwethaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ailddatgan pwysigrwydd cyfrinachedd i'w grwpiau a bydd y Llywydd yn ystyried pa gamau, os o gwbl, y bydd yn eu cymryd.
Grwpio cwestiynau
Cwestiynodd Elin Jones benderfyniad y Llywydd i grwpio dau gwestiwn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar 12 Mawrth, gan awgrymu nad oedd y cwestiynau'n ddigon tebyg i'w grwpio.
Eglurodd y Llywydd ei hymagwedd tuag at grwpio cwestiynau, gan egluro ei fod yn golygu y gellir gofyn mwy o'r cwestiynau a gyflwynir yn yr amser sydd ar gael.
Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)
Nododd y Rheolwyr Busnes sylwadau a wnaed gan Elin Jones ynghylch natur dadl Cyfnod 4 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr wythnos diwethaf.
Bil Cymru
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth am gyhoeddi Bil Cymru a bwriad y Llywodraeth mewn perthynas â Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n dod â phapur i'r cyfarfod nesaf.